31.8.06

Bydded Goleuni

Nodyn bach sydyn i ddweud fod petha'n dechra symyd yn y ty 'cw o'r diwedd. Y plastrwr wrthi'n drylwyr ers rhai dyddia yn sortio'r walia a'r lloria, a fy nhad yn nghyfraith yn brysur sortio'r ystafelloedd gwely allan. Rydym yn gobeithio symyd erbyn diwedd mis Medi felly mae pethau'n edrych yn olew o dda ar hyn o bryd.

Wedi meddwl, y gwir amdani yw bydd rhaid i ni symyd diwedd mis Medi gan fod ni wedi rhoi mis o slyw i'r asiant sydd yn rhentu'r ty i ni'n Aber. Wps, o wel, os bydd rhaid ryffio hi ynghanol y llanast am sbel fydd hi ddim yn ddiwedd y byd - bydd to dros ein penna beth bynnag.

1 Comments:

Blogger Dave GoWell mwydrodd...

Can you give me any information about the Welsh word 'Bydded' that appears in your Blog? I know it's in the Welsh National Anthem, but I can't find it in any Welsh dictionary. It's probably a mutated letter and I don't know where to look. Can you help me?
davegowell@gmail.com
New Jersey, USA

12:25 PM  

Ychwanegu sylw

<< Home