28.6.06

Yma o hyd....

Ie, dwi dal yma, ond does wir ddim llawer i'w adrodd ar hyn o bryd.

Cawsom adroddiad yn ol can yr arolygwr oedd yn edrych ar y ty, dim yn newyddion da yn ol pob golwg. Angen gwario o leiaf 10k arno medda fo, a bydd y gymdeithas adeiladu ddim yn benthyca y swm roeddym wedi meddwl gael fel mae petha'n sefyll, 'unmortgageable' felly. Rhaid meddwl yn gall beth i neud rwan, bydd rhaid cynnig llai yn amlwg, ac os fydd y gwerthwr yn fodlon bydd popeth yn iawn, os fydd o'n anfodlon, bydd rhaid dechra ar y broses o chwilio unwaith eto.

Hwyl a sbri yn wir :|

Dyna'i gyd am rwan.