22.6.06

Panig Drosodd.

Y we nol yn ein mysg yma yn y gwaith a diolch am hynny, roedd petha'n reit frawychus yn fanna am eiliad neu ddwy. Roedd rhyw fwnci wedi llwytho meddalwedd 'firewall' newydd i fyny, ac heb feddwl am edrych ar y gosodiadau yn iawn. Roedd pob gwefan yn y byd ar y rhestr ddu ganddynt mwy neu lai, dyna beth ydi firewall (tanwal ?) ddiogel amwni, ond dim yn rhyw ymarferol iawn.

Oes newyddion arall ?

Oes.

Mae'n edrych yn debyg fod ni wedi cael hyd i dy o'r diwedd. Rydym wedi rhoi cynnig arno, mae'r cynnig wedi ei dderbyn ac mae morgais wedi ei drefnu gyda'r gymdeithas adeiladu. Os nad ddaw rhyw broblem fawr hefo'r ddwy arolygiad ni'n gael ei wneud - byddwn yn symyd yn ol i bentref Talybont yn y dyfodol agos.