13.6.06

A dyna'r gwyliau...

Roeddwn wedi rhyw grybwyll mwy o son am y gwyliau, ond wedi meddwl am y peth yn iawn,nid oes llawer mwy i adrodd. Wedi i ni ddod yn nol o Vietnam, roedd wythnos llawn ganddom ar ol i wario yn Singapore. Gwariwyd tridiau yn mwydro rownd y ddinas, yn siopa ac yn hel gweddill o'r anrehgion i'r teulu ayyb. Buom yn y Sw nos, cartref y 'Bongo Burger' byd enwog, buom am daith i fyny ac i lawr yr afon drwy ganol y ddinas - a dyna'r uchafbwyntiau a dweud y gwir. Rhyw deimlo fod ni di cael mwy o hwyl yn Vietnam rhywsut. Cwpwl o luniau o'r ddinas:





O ie, ac un iselbwynt. Gwenwyn bwyd am y tridiau olaf, fel mae petha'n digwydd, tydi swshi ddim yn cytunno hefo'r Blogiwr yma !

A dyna hanes y gwyliau mawr !